Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3 Senedd, a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd
Llun, 19 Mehefin 2023
Amser:
13.32 -
16.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13371
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Yr Athro Catherine Barnard, Coleg y Drindod Caergrawnt Yr Athro Simon Usherwood, Y Brifysgol Agored |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Catherine Barnard a’r Athro Simon Usherwood.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
3.1 SL(6)362 – Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Geirfa Gaffael Gyffredin (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog.
4.2 Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
4.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Cyllid Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.
5.3 Gohebiaeth â'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, yr Arglwydd Bellamy KC
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder.
5.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
8 Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan yr Athro Catherine Barnard a’r Athro Simon Usherwood.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol
The Committee considered the Supplementary Legislative Consent Memorandum (Memorandum No. 2) on the Data Protection and Digital Information (No. 2) Bill and agreed to consider its draft report at a future meeting. The Committee also considered the correspondence with the First Minister.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Ar-lein: Adroddiad drafft
The Committee agreed its draft report.
11 Trafod yr ohebiaeth: Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Addysg Ddewisol yn y Cartref
The Committee agreed its response to the correspondence it considered during its meeting on 12 June 2023 relating to the Welsh Government’s Elective Home Education Statutory Guidance.
12 Cytundebau rhyngwladol
The Committee considered and agreed its draft report on the international agreements it considered on 12 June 2023.
Made Negative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments
Affirmative Resolution Instruments
13 Ystyried ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall
Trafododd y Pwyllgor ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ei gyflwyniad drafft i’r ymchwiliad mewn cyfarfod yn y dyfodol.
14 Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): Diweddariad
Trafododd y Pwyllgor ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).